Enghraifft o'r canlynol | mur o alaethau |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1989 |
Rhan o | bydysawd gweladwy |
Yn cynnwys | Uwch Clwstwr Coma, Hercules Superclusters |
Hyd | 500,000,000 blwyddyn golau |
Y Mur Mawr, y cyfeirir ato'n fwy penodol weithiau fel Mur Mawr CfA2, yw'r uwch-strwythr ail fwyaf yn y bydysawd y gwyddwn amdano. Edefyn galaethau o galaethau ydyw, tua 200 miliwn blwyddyn golau i ffwrdd ac sydd â hyd o dros 500 miliwn blwyddyn golau a lled o 300 miliwn blwyddyn golau, ac eto nid yw ei drwch ond 15 miliwn blwyddyn golau. Fe'i darganfuwyd yn 1989 gan Margaret Geller a John Huchra yn eu gwaith seiliedig ar ddadansoddi data o arolwg sifft coch gan y CfA Redshift Survey[1].
Ni ellir gwybod ar hyn o bryd i ba raddau mae'r Mur Mawr yn ymestyn ymhellach oherwydd plân Galaeth y Llwybr Llaethog y lleolir y Ddaear arni. Mae mater rhyngseryddol (nwy a llwch) sy'n perthyn i'r Llwybr Llaethog yn amharu ar arsyllu seryddwyr ac felly does dim modd gwybod ei faint terfynol.
Damcaniaethir fod strwythurau fel y Mur Mawr yn ffurfio ar hyd edafedd tebyg i we o fater tywyll ac yn eu dilyn. Damcaniaethir ymhellach fod y mater tywyll hwn yn penderfynu strwythr y bydysawd ar y raddfa fwyaf. Mae disgyrchiant mater tywyll yn atynu mater rheolaidd, a'r mater rheolaidd 'normal' hwn a welir gan seryddwyr yn ymffurfio fel muriau "tenau" syth yn glysterau Uwch-alaethol.
Does dim ond un strwythr yn y bydysawd sy'n fwy na'r Mur Mawr. Mur Mawr Sloan yw hwnnw, a ddarganfuwyd yn 2003 mewn data gan Arolwg Awyr Digidol Sloan; mae'n gorwedd tua biliwn o flynyddoedd golau (1 giga-flwyddyn golau) i ffwrdd, ac mae ganddo hyd o tua 1.4 giga-flwyddyn golau.